
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 1 Medi 2020.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 4(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”.
4 
Ar ôl rheoliad 4(2) mewnosoder—“
(2A) Rhaid cynnal o leiaf 370 o sesiynau mewn ysgol a restrir ym mharagraff (2B) yn ystod y flwyddyn ysgol 2020-2021 ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin yn yr ysgolion hynny gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.
(2B) Yr holl ysgolion a gynhelir yn yr ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(i) Conwy;
(ii) Sir Benfro ac eithrio Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH;
(iii) Powys.”
5 
Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—“
6. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2020-2021 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn y gostyngiad mewn gweithrediadau oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol honno.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2020