
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.59 p.m. ar 30 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
2 
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol a rheoliadau 3, 6, 8 a 9.
3 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“Estonia”“Latfia”“Saint Vincent a’r Grenadines”“Slofacia”“Slofenia”.
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 31 Gorffennaf 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi cyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 3, neu ar ôl bod mewn gwlad a restrir yn y rheoliad hwnnw, a
(b) fo diwrnod olaf ynysiad P ar 31 Gorffennaf 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 3 at Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 3 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran pa un a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 3, i’w bennu drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).
6 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer “Lwcsembwrg”.
7 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod yn Lwcsembwrg ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 31 Gorffennaf 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn Lwcsembwrg, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
8 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2, yn lle “— gemau prawf.” rhodder—“—
(a) gemau prawf;
(b) gemau rhyngwladol undydd;
(c) gemau T20 rhyngwladol.”
(3) Ym mharagraff 4, yn lle “— gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA.” rhodder—“—
(a) gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA;
(b) gornestau rhyngwladol.”
(4) Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—“
(l) Cylchdaith Golff Ewrop – Her Iwerddon.”
(5) Ym mharagraff 6, ar y diwedd mewnosoder—“
(e) Gŵyl St Leger;
(f) Gŵyl Pencampwyr y Dyfodol Dubai;
(g) Diwrnod Pencampwyr Prydain QIPCO;
(h) Cyfarfod The Showcase, Cheltenham.”
(6) Ym mharagraff 9, yn lle “— gornestau rhyngwladol” rhodder—“—
(a) gornestau rhyngwladol;
(b) gornestau Clybiau Rygbi Proffesiynol Ewrop;
(c) gornestau Guinness PRO14.”
(7) Ar y diwedd mewnosoder—“
11. 
Athletau — Marathon Llundain.
12. 
Hoci maes — gornestau Cynghrair FIH Pro.
13. 
Tennis — Rowndiau Terfynol Cylchdaith ATP.”
9 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 nac 8), ym mharagraff 17(2)(b), yn lle “mae i “trwyddedai carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage licensee” yn adran 17BA(6) a 219(1)” rhodder “ystyr “trwyddedai carthffosiaeth” yw person sy’n ddeiliad trwydded carthffosiaeth o dan adran 17BA”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymr
Am 5.35 p.m. ar 30 Gorffennaf 2020