
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
2 
Yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hepgorer “Sbaen”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) a—
(a) cyrhaeddodd Cymru ar ôl i’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 ddod i rym, a
(b) oedd yn Sbaen ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n gorffen ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn i’r diwygiad hwnnw ddod i rym.
(2) I osgoi unrhyw amheuaeth, mae P i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1)(b) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yn Sbaen ddiwethaf.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yr un ystyr ag yn rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2020