
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TTT” yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
(4) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf TTT.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy—
(a) sy’n drafodiad eiddo preswyl, a
(b) sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—
(a) o ganlyniad i adran 10(4) o’r Ddeddf TTT, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2021, a
(b) y contract o dan sylw yn cael ei gwblhau drwy drosglwyddiad ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw os mai’r unig reswm y byddai (oni bai am y rheoliad hwn) wedi bod yn gymwys yw nad yw’r addasiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw.
3 
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt at ddibenion adran 24(1) o’r Ddeddf TTT.
4 

(1) Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);
(b) ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
22 Gorffennaf 2020
YR ATODLEN
Rheoliad 3

Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £250,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 5%
Yr ail fand treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 7.5%
Y trydydd band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 10%
Y pedwerydd band treth Mwy na £1,500,000 12%