
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2020.
2 

(1) Mae Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6, yn is-baragraffau (c) a (d), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.
(3) Ym mharagraff 7—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl ““three months’”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months’” in relation to a dwelling-house in Wales”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.
(4) Ym mharagraff 11—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””;
(b) yn is-baragraff (b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””, a
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle ““three months”” rhodder ““six months””.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Gorffennaf 2020