
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer “Serbia”.
3 

(1) At ddibenion rheoliad 7(1)(b) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, nid yw person sy’n cyrraedd Cymru wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w drin fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd Cymru os—
(a) yw’r person yn gadael Serbia ar 10 Gorffennaf 2020, a
(b) nad yw wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth arall nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yr un ystyr ag yn rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.45 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020