
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2020 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2020.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 62—
(a) yn lle paragraff (10) rhodder—“
(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
(a) drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b) drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c) drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”,
(b) hepgorer paragraff (11), ac
(c) hepgorer paragraff (12).
RHAN 3
4 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 i 11.
5 
Yn rheoliad 19, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—
(a) bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu
(b) nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
6 
Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 4 rhodder—“Eithriad 4Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
7 
Yn rheoliad 44, yn lle Eithriad 5 rhodder—“Eithriad 5Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
8 
Yn rheoliad 54, yn lle Eithriad 4 rhodder—“Eithriad 4Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
9 
Yn rheoliad 62, yn lle Eithriad 5 rhodder—“Eithriad 5Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
10 
Yn lle rheoliad 91 rhodder—“
91. 
Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a) drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b) drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c) drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”
11 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2020