
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015.
2 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd rheoliadau 5 i 9 yn ystod y cyfnod y maent yn cael effaith.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4, mae rheoliadau 5 i 9 yn peidio â chael effaith ar 31 Awst 2021.
3 
Pan fo person yn ymgymryd â sesiwn dysgu proffesiynol sy’n bodloni amodau rheoliad 7A o Reoliadau 2015 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 7) yna caiff sesiynau o’r fath gyfrif tuag at gyfnod sefydlu’r person hwnnw fel pe baent yn sesiynau ysgol ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i ben ar yr amod bod uchafswm o 18 o sesiynau o’r fath.
4 
Nid yw’r ffaith bod rheoliadau 5 i 9 o dan reoliad 2 wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r darpariaethau hyn cyn y dyddiad dod i ben.
5 
Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
6 
Yn rheoliad 3(2)(b) ar ôl “(gan gynnwys, yn unig, gyfnodau o gyflogaeth sy’n cyfrif tuag at gyfnod sefydlu o dan reoliad 9)” mewnosoder “neu reoliad 8(5) (penderfyniad corff priodol pan fo’r safonau wedi eu cyrraedd)”.
7 
Ar ôl rheoliad 7 mewnosoder—“
7A. 
Caiff sesiwn dysgu proffesiynol y mae person yn ymgymryd ag ef gyfrif tuag at gyfnod sefydlu’r person hwnnw pan—
(a) ymgymerir â’r sesiwn dysgu proffesiynol rhwng 26 Mawrth 2020 ac 31 Awst 2021,
(b) bo’r sesiwn dysgu proffesiynol yn isafswm o 3 awr (boed yn olynol ai peidio), ac
(c) bo’r sesiwn dysgu proffesiynol wedi ei gymeradwyo gan y corff priodol.”
8 
Yn rheoliad 8—
(a) Ym mharagraff (1), ar ôl “a (4)” mewnosoder “a (5)”;
(b) Ar ôl is-baragraff (3)(e) mewnosoder—“
(f) pan fo paragraff (5) yn gymwys.”;
(c) Yn is-baragraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;
(d) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.
(6) Ym mharagraffau (4) a (5) caiff “sesiwn ysgol” gynnwys sesiwn dysgu proffesiynol sy’n bodloni’r amodau yn rheoliad 7A.
(7) Ni chaiff y sesiynau dysgu proffesiynol a gaiff gyfrif fel sesiynau ysgol fod yn fwy na 16% o hyd cyfan cyfnod sefydlu.”
9 
Yn rheoliad 13 (cwblhau cyfnod sefydlu) —
(a) Ar ôl is-baragraff (1)(b) mewnosoder—“
(c) os yw’r person hwnnw wedi ymgymryd â sesiwn dysgu proffesiynol y cyfeirir ati yn rheoliad 7A pan gwblheir y cyfnod sefydlu.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2020