
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2020.
2 
Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(2) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-2023, rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer y flwyddyn ysgol honno heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2020