
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Planhigion Llysieuol a Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle’r diffiniad o “Directive 93/61/EEC” rhodder—“
 “Directive 93/61/EEC” means Commission Directive 93/61/EEC setting out the schedules indicating the conditions to be met by vegetable propagating and planting material, other than seed pursuant to Directive 92/33/EEC;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “Directive 2008/72/EC” rhodder—“
 “Directive 2008/72/EC” means Council Directive 2008/72/EC on the marketing of vegetable propagating and planting material, other than seed;”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yn y tabl, yn lle’r is-bennawd “Llysiau” a’r cofnodion o dan yr is-bennawd hwnnw rhodder—“
Llysiau
Allium cepa L. –
—Grŵp Cepa Nionod, Echalion
Allium porrum L. Cennin
—pob amrywogaeth 
Apium graveolens L. –
—Grŵp Seleri –
—Grŵp Seleriac –
Asparagus officinalis L. Merllys
—pob amrywogaeth 
Beta vulgaris L. –
—Grŵp Betys Gardd Betys gan gynnwys betys Cheltenham
—Grŵp Betys Deiliog Betys ysbigoglys neu Ddail betys
Brassica oleracea L. –
—Grŵp Cêl –
—Grŵp Blodfresych –
—Grŵp Capitata Cabets coch a Chabets gwyn
—Grŵp Ysgewyll Brwsel –
—Grŵp Colrabi –
—Grŵp Cabets Crych –
—Grŵp Brocoli Y math Calabrese a’r math Blaguro
—Grŵp Cêl Palmwydd –
—Grŵp Tronchuda Cabets Portiwgal
Brassica rapa L. –
—Grŵp Cabets Tsieina –
—Grŵp Llysiau Maip –
Cichorium endivia L. Ysgellog y meirch
—pob amrywogaeth 
Cucumis melo L. Melonau
—pob amrywogaeth 
Cucumis sativus L.—Grŵp Cucumerau—Grŵp Gercynau –––
Cucurbita maxima Duchesne Gowrdiau
—pob amrywogaeth 
Cucurbita pepo L. Maros, gan gynnwys pwmpenni aeddfed a sgwoshiau sgolop, neu Courgettes, gan gynnwys sgwoshiau sgolop anaeddfed
—pob amrywogaeth 
Daucus carota L. Moron a Moron Porthi
—pob amrywogaeth 
Lactuca sativa L. Letys
—pob amrywogaeth 
Solanum lycopersicum L. Tomatos
—pob amrywogaeth 
Petroselinum crispum (Mill.) Nyman ex A. W. Hill –
—Grŵp Persli Deiliog –
—Grŵp Gwreidd-bersli –
Phaseolus coccineus L. Ffa dringo
—pob amrywogaeth 
Phaseolus vulgaris L. –
—Grŵp Ffa Ffrengig Bach –
—Grŵp Ffa Ffrengig Dringol –
Pisum sativum L. –
—Grŵp Pys Crwn –
—Grŵp Pys Crych –
—Grŵp Pys Siwgr –
Raphanus sativus L. –
—Grŵp Radis –
—Grŵp Radis Du –
Spinacia oleracea L. Ysbigoglys
—pob amrywogaeth 
Vicia faba L. Ffa llydain
—pob amrywogaeth 
Zea mays L. –
—Grŵp India-corn –
—Grŵp Popgorn –
Unrhyw hybridiau o’r rhywogaethau llysiau neu’r Grwpiau a restrir uchod ”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2020