
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Datgymhwyso Dros Dro Ddeiliadaeth Swydd) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.
2 
Nid yw rheoliadau 6(5) a 7(5) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
3 
Nid yw rheoliad 14(3) o Reoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
4 
Nid yw rheoliadau 6(5) a 7(4) o Reoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
5 
Nid yw rheoliad 8(5) o Reoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
6 
Nid yw rheoliadau 6(5) a 7(4) o Reoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
7 
Yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017, nid yw’r geiriau “ond ni chaniateir i berson fod yn aelod nad yw’n swyddog am gyfnod cyfan sy’n hwy nag 8 mlynedd” yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol.
8 
Caiff unrhyw berson a benodir neu a ailbenodir yn unol â’r Rheoliadau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 2 i 7 o’r Rheoliadau hyn, fel y’u haddesir, barhau i ddal a gadael y swydd, ar ddiwedd y cyfnod perthnasol, yn unol â thelerau penodiad neu ailbenodiad y person hwnnw.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mehefin 2020