
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2020.
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3 
Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “y Comisiwn Ansawdd Gofal” (“Care Quality Commission”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008;”;“
 ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.
4 
Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—“
(k) y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, pan fo’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi eu darparu i oedolion ac y mae eu hangen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—
(i) oni bai bod y llety a’r nyrsio neu’r gofal—(aa) wedi eu darparu gan awdurdod lleol,(bb) wedi eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol, neu(cc) wedi eu comisiynu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi eu darparu naill ai gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal ac sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion, neu gan berson sydd wedi ei gofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr o fewn ystyr “care home” yn Rhan 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a
(ii) oni bai bod y person sy’n darparu’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru.”
5 
Yn rheoliad 3(1) (gwasanaethau cymorth cartref)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(j) y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolion pan fo angen y gofal a’r cymorth o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—
(i) oni bai bod y gofal a’r cymorth—(aa) wedi eu darparu gan awdurdod lleol,(bb) wedi eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol, neu(cc) wedi eu comisiynu gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol ac wedi eu darparu naill ai gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, neu gan berson sydd wedi ei gofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 mewn cysylltiad ag asiantaeth gofal cartref o fewn ystyr “domiciliary care agency” yn Rhan 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a
(ii) oni bai bod y person sy’n darparu’r gofal a’r cymorth wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru.”
6 
Yn rheoliad 35 (addasrwydd staff)—
(a) ym mharagraff (2)(d), o flaen y geiriau agoriadol, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (9A) o’r rheoliad hwn,”;
(b) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(9A) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion neu wasanaeth cymorth cartref i oedolion, mae’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni er bod y person a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn methu â darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraffau 4, 6, 8 a 9 o Ran 1 o Atodlen 1—
(a) os na all y person yn rhesymol ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad â’r materion hynny o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,
(b) os yw’r person yn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth mewn cysylltiad â’r materion hynny sydd mor llawn a boddhaol ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac
(c) os yw’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth a ddarperir ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni.”
7 
Yn rheoliad 45 (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion)—
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Bydd yr amod ym mharagraff (2)(d) yn parhau i gael ei fodloni er bod nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth pan na fo’r nifer yn fwy na’r terfyn ond oherwydd bod llety y mae ei angen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws yn cael ei ddarparu mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020.”;
(b) ym mharagraff (3)(c), yn lle “yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.” rhodder—“—
(i) yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol, neu
(ii) wedi eu darparu â’r llety ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020 ac mae angen y llety o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2020