
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw’r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a daw i rym ar 9 Mehefin 2020.
2 
Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3 
Yn erthygl 2, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, ystyr “caniatâd cynllunio” yw caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ond nid yw’n cynnwys y datblygiadau hynny a ganiateir y rhoddir caniatâd cynllunio iddynt naill ai yn rhinwedd gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn unol ag adran 58(1)(a) o’r Ddeddf honno.”
4 
Yn lle erthygl 4 rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i waith adeiladu pan na fo’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu.
(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy.
(3) Nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i’r datblygiadau o dan y Rhannau a ganlyn o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995—
(a) Rhan 3A (Adeiladu Dros Dro a Newid Defnydd at Ddibenion Argyfwng Iechyd y Cyhoedd);
(b) Rhan 12A (Datblygu Brys gan Awdurdodau Lleol); a
(c) Rhan 37 (Datblygu Brys gan y Goron).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mai 2020