
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ebrill 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn hawlio 2020” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
2 
At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio yn gymwys fel pe bai—
(a) yn Erthygl 13(1), “15 June 2020” wedi ei roi yn lle “15 May each year”;
(b) yn Erthygl 15(2), “30 June 2020” wedi ei roi yn lle “31 May of the year concerned”;
(c) yn Erthygl 22(1), “15 June 2020” wedi ei roi yn lle “15 May of the relevant calendar year”.
3 
At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Erthygl 8(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin yn gymwys fel pe bai’r geiriau “prior to exit day” wedi eu hepgor.
4 
At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 yn gymwys fel pe bai “15 Mehefin 2020” wedi ei roi yn lle “15 Mai” yn y ddau le y mae’n digwydd.
5 
At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 yn gymwys fel pe bai—
(a) yn rheoliad 10(1), “15 Mehefin 2020” wedi ei roi yn lle “15 Mai yn y flwyddyn galendr berthnasol”;
(b) yn rheoliad 11(3), “2019 a 15 Mai 2020” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “yn y flwyddyn galendr flaenorol” hyd at y diwedd.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2020