
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2020.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y cyfnod blaenorol” (“the antecedent period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
 ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar 31 Ionawr 2021;
 ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
 ystyr “etholiad perthnasol” (“relevant election”) yw etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
 ystyr “Rheolau 2006” (“the 2006 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006.
3 

(1) Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru a fyddai, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270 o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli).
4 

(1) Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag a fyddai, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006.
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r bleidlais ar gyfer etholiad perthnasol—
(a) os yw’n ofynnol i’r bleidlais gael ei chynnal ar ddiwrnod sydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 25 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar 31 Ionawr 2021, ond
(b) yn unol â’r Rheoliadau hyn, nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw adran 39 o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol di-rym etc.) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas â’r bleidlais.
(3) Nid yw adran 63 o Ddeddf 1983 (torri dyletswydd swyddogol) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred mewn cysylltiad â’r bleidlais.
(4) Wrth benderfynu at ddiben y rheoliad hwn a yw pleidlais wedi cael ei chynnal, mae pleidleisiau drwy’r post i’w hanwybyddu.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2020