
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 25 Ebrill 2020.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.
2 
Yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —
(a) busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;
(b) disgrifiad penodedig o bersonau;
(c) rhan benodedig o Gymru.
(4A) Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—
(a) ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
(b) ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu
(c) ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—
(i) ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu
(ii) ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.”
3 

(1) Mae rheoliadau 4, 5, 6 a 6A o’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 4(5) mewnosoder—“
(5A) Mae paragraff (5B) yn gymwys—
(a) i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), (b) neu (c) o baragraff 2 o Atodlen 1, neu
(b) pan fo mangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio at ddiben a grybwyllir ym mharagraff (5).
(5B) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes neu ddarparu’r gwasanaeth, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).”
(3) Ar ôl rheoliad 5(3A) mewnosoder—“
(3B) Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—
(a) i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu
(b) i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).
(3C) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).”
(4) Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).”
(5) Yn rheoliad 6A, yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—
(a) a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, neu
(b) y mae rheoliad 6(2A) yn gymwys iddi.”
4 

(1) Mae rheoliad 8 o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl “byw” mewnosoder “neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw”.
(3) Ym mharagraff (2)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) i gael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—
(i) bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii) cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(aa) i gael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 38 neu 39 o Atodlen 1 neu i adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;”
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol), naill ai—
(i) ar ei ben ei hun,
(ii) gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu
(iii) gyda gofalwr y person;”
(c) ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—“
(ga) i ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;”
(d) yn is-baragraff (i)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “blentyn y person” rhodder “blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto”;
(ii) ym mharagraff (iii), yn y testun Saesneg, yn lle “Department of Work” rhodder “Department for Work”;
(e) yn is-baragraff (l), yn lle “fo’n angenrheidiol” rhodder “na fo modd gohirio’r symud”.
5 

(1) Mae rheoliad 10 o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) hepgorer “os yw’r person perthnasol yn credu’n rhesymol”;
(b) yn is-baragraff (a)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau”;
(ii) ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”;
(c) yn is-baragraff (b), ar y dechrau mewnosoder “os yw’r person perthnasol yn ystyried”.
(3) Ym mharagraff (2), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.
(4) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Caiff person perthnasol—
(a) wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(a) neu (b), gyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b) defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(b).”
(5) Ym mharagraff (5), yn lle “ddiben paragraff (4)” rhodder “ddibenion y rheoliad hwn”.
(6) Ym mharagraff (7), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.
(7) Yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—
(a) i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu
(b) i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,
ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(8A) Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 8(5) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a) caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b) rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.
(8B) Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.”
(8) Ym mharagraff (9)—
(a) yn lle “Caiff person perthnasol” rhodder “Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol”;
(b) ar ôl “rhesymol” mewnosoder “, os yw’n angenrheidiol,”.
(9) Ym mharagraff (12), ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”.
6 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)(e), ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) unrhyw blentyn;
(v) unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.”
(3) Yn rheoliad 4(5)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “Ran 2” mewnosoder “o Atodlen 1”;
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;”
(c) yn is-baragraff (c)(ii), hepgorer “archebion”.
(4) Yn rheoliad 5(3A), hepgorer is-baragraff (a).
(5) Yn rheoliad 6(2)(a)(ii), ar ôl “archebion” mewnosoder “neu ymholiadau”.
(6) Yn rheoliad 7—
(a) yn y testun Cymraeg, yn lle “cam”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “mesur”;
(b) yn y testun Cymraeg, yn lle “cymrir”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cymerir”;
(c) yn nhestun Cymraeg paragraff (4), hepgorer “wedi ei gymryd”;
(d) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4ZA) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.”;
(e) yn nhestun Cymraeg paragraff (5)(b), hepgorer “wedi ei gymryd”.
(7) Yn rheoliad 7(A)(1)—
(a) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) rheoliad 4(5B),
(ab) rheoliad 5(3C),”;
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “6(1)” mewnosoder “neu (2A)”;
(c) yn y testun Cymraeg, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (d), yn lle “camau” rhodder “mesurau”.
(8) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (2)(d)—
(i) yn y testun Cymraeg, yn lle “cymorth” rhodder “cynhorthwy”;
(ii) ar ôl “cymorth brys” mewnosoder “i unrhyw berson”;
(b) ym mharagraff (2)(m), yn y testun Cymraeg, yn lle “newid” rhodder “niwed”;
(c) ym mharagraff (5)(d)(iii), ar ôl “cynhorthwy brys” mewnosoder “i unrhyw berson”.
(9) Yn rheoliad 12(1)(a), ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”.
(10) Yn Atodlen 1—
(a) yn nhestun Cymraeg paragraff 2(2)(b), yn lle “pan y cymrir pob cam” rhodder “pan gymerir pob mesur”;
(b) ym mharagraff 22, ar ôl “ac eithrio” mewnosoder “marchnadoedd da byw a”;
(c) ym mharagraff 24, ar y diwedd mewnosoder “(ac eithrio arwerthiannau da byw)”;
(d) ym mharagraff 38, yn lle “a pheiriannau” rhodder “, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
11:45 a.m. ar 24 Ebrill 2020