
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2 
Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1—
(a) yn is-baragraff (1), ar y diwedd mewnosoder—“
(l) yn ddarostyngedig i is-baragraff (1A), bagiau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio yn unig at ddiben cludo nwyddau a brynir—
(i) i’w danfon yn rhan o wasanaeth danfon nwyddau groser; neu
(ii) i’w casglu yn rhan o wasanaeth sy’n darparu ar gyfer casglu nwyddau groser.”;
(b) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Dim ond tan ganol nos ar 8 Gorffennaf 2020 y mae bagiau sy’n dod o fewn paragraff (l) o is-baragraff (1) wedi eu hesemptio rhag y tâl o dan reoliad 6.”
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.45 p.m ar 8 Ebrill 2020