
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017,
 ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017,
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw—
(a) Rheoliadau 2017,
(b) Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,
(c) Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,
(d) Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,
(e) Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
RHAN 2
2 
Maeʼr Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn adran 9(5)(a), ar ôl “is-adran (4)” mewnosoder “neu (6)”.
RHAN 3
4 
Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6 ac mae rheoliad 7 yn cyflwyno darpariaeth drosiannol.
5 
Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
3A. 

(1) Maeʼr rheoliad hwn yn gymwys pan foʼr ymgeisydd, o fewn ystyr paragraff (a) oʼr diffiniad o “ymgeisydd” yn rheoliad 2, yn sefydliad.
(2) Rhaid i ymgeisydd y maeʼr rheoliad hwn yn gymwys iddo, yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3, ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth ym mharagraff (3).
(3) Rhaid iʼr ymgeisydd ddarparu, mewn perthynas âʼr personau a restrir ym mharagraff (4)—
(a) eu henw llawn, eu dyddiad geni, eu cyfeiriad cartref, eu cyfeiriad post electronig a’u rhif ffôn, a
(b) yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 13 i 22 o Atodlen 1.
(4) Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth ym mharagraff (3) mewn perthynas â hwy yw—
(a) pan foʼr sefydliad yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol—
(i) pob person sydd wedi ei benodiʼn gyfarwyddwr oʼr corff corfforaethol,
(ii) pob person sydd wedi ei benodiʼn ymddiriedolwr oʼr corff corfforaethol,
(iii) pob aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol,
(b) pan foʼr sefydliad yn gorff anghorfforedig, pob person syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff,
(c) pan foʼr sefydliad yn bartneriaeth, pob partner.”
6 
Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 45—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “;”,
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) unrhyw berson syʼn aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol.”, a
(b) yn nhestun Saesneg paragraff 48, yn lle “application” rhodder “declaration”.
7 
Mae cais i gofrestru sydd wedi ei gyflwyno yn unol âʼr Rheoliadau Cofrestru cyn iʼr Rheoliadau hyn ddod i rym, iʼw benderfynu fel pe na baiʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
RHAN 4
8 
Maeʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 9.
9 
Yn Atodlen 3—
(a) yn lle paragraff 3 rhodder—“
3. 
Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—
(a) cyfarwyddwyr,
(b) ymddiriedolwyr, neu
(c) aelodau pwyllgor rheoli,y corff corfforaethol.
3A. 
Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.”
(b) ym mharagraff 5 yn lle “cwmni” rhodder “corff corfforaethol”.
RHAN 5
10 
Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 11 a 12.
11 
Yn rheoliad 1(3), mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—
 “ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;”;
 “mae i “proffesiynolyn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered professional” ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;”.
12 
Yn rheoliad 35—
(a) yn lle paragraff (2)(f) rhodder—“
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
(ii) â gwasanaeth llety diogel, neu
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).”
(b) ar ôl is-baragraff (f) fel yʼi hamnewidir gan y Rheoliadau hyn mewnosoder—“
(g) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
(ii) â gwasanaeth llety diogel, neu
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”)”.
(c) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(8A) Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—
(a) 6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
(ii) â gwasanaeth llety diogel,
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.”
(d) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—
(a) nyrs, neu
(b) proffesiynolyn cofrestredig.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2020