
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.
2 
Yn rheoliad 2(1)(b) o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
3 
Yn rheoliadau 6(1)(b) a 14(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
4 
Yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
5 
Yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
16th Ionawr 2020