
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020—
(a) adran 10 (addasu dros dro ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol);
(b) Rhan 1 o Atodlen 8 (darpariaeth ragarweiniol);
(c) paragraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 (cyfansoddiad a thrafodion Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru).
3 
Daw adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol) o’r Ddeddf, a Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru) iddi i rym ar 1 Ebrill 2020.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2020