
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 31 Mawrth 2020.
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Ebrill 2020.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2020