
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 2.00 yr hwyr ar 21 Mawrth 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am redeg busnes a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen—
(a) yn ystod y cyfnod perthnasol—
(i) cau unrhyw fangre, neu rhan o’r fangre, lle gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta yn y fangre honno, a
(ii) peidio â gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta yn ei fangre; neu
(b) os yw’r busnes yn gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta oddi ar y fangre, peidio â gwerthu bwyd na diod i’w fwyta yn ei fangre yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), nid yw bwyd a diod sy’n cael ei werthu gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta ym mangre’r gwesty neu lety hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (1)(a)(ii) a (b), mae ardal gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau ar gael i gwsmeriaid y busnes (p’un a yw’r busnes yn gwneud hynny ai peidio) i’w drin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am redeg busnes a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen, gau’r busnes hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol.
(5) Os yw busnes a restrir yn yr Atodlen (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am weithredu busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) os yw’n cau lawr busnes A.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y rheoliad hwn bob 28 diwrnod, a rhaid i’r adolygiad cyntaf gael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.
(7) Cyn gynted ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen y cyfyngiadau a nodir yn y rheoliad hwn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd yn terfynu’r cyfnod perthnasol.
(8) Caiff cyfarwyddyd a gyhoeddir o dan baragraff (7) derfynu’r cyfnod perthnasol mewn perthynas â rhai o’r busnesau a restrir yn yr Atodlen, neu bob busnes a restrir yn yr Atodlen.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlu aciwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(b) mae “person sy’n gyfrifol am redeg busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(c) mae’r “cyfnod perthnasol” yn cychwyn pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn gorffen ar y diwrnod a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).
3 

(1) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri reoliad 2 yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w gosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.
(4) Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a) wedi’i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog o’r corff, neu
(b) y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y cyfryw swyddog,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael achos wedi’i ddwyn yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff corfforaethol.
4 

(1) Caiff person a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i orfodi gofyniad i gau mangre neu gyfyngiad a osodir gan reoliad 2.
(2) Caniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 3 gan unrhyw berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru.
5 

(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ar y diwrnod y deuant i rym.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.45 p.m. ar 21 Mawrth 2020
ATODLEN
Rheoliad 2
RHAN 1
1 
Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn gwestai neu glybiau aelodau.
2 
Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle, ond heb gynnwys—
(a) caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;
(b) ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;
(c) gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.
3 
Bariau, gan gynnwys bariau mewn gwestai neu glybiau aelodau.
4 
Tafarndai.
RHAN 2
5 
Sinemâu.
6 
Theatrau.
7 
Clybiau nos.
8 
Neuaddau bingo.
9 
Neuaddau cyngerdd.
10 
Amgueddfeydd ac orielau.
11 
Casinos.
12 
Siopau betio.
13 
Sbaon.
14 
Parlyrau tylino.
15 
Canolfannau sglefrio (dan do).
16 
Stiwdios ffitrwydd, campfeydd, pyllau nofio neu ganolfannau hamdden dan do eraill