
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 10 Ebrill 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 28, yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder—“ar gyfer deunyddiau planhigion o riant-blanhigyn a oedd yn bodoli cyn cychwyn”.
(3) Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—“
28ZA. 

(1) Caiff cyflenwr farchnata deunyddiau CAC y mae dogfen y cyflenwr nad yw’n cydymffurfio â pharagraff 8A o Atodlen 2 ynghlwm wrthynt ar ffurf label os yw’r ddogfen honno—
(a) yn ddogfen y cyflenwr o liw a oedd yn cael ei ddefnyddio cyn 10 Ebrill 2020; a
(b) yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1813.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 1 Gorffennaf 2021.”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 8(b), hepgorer paragraffau (ix) a (x); a
(b) ar ôl paragraff 8 mewnosoder—“
8A. 
Rhaid i ddogfen y cyflenwr sydd ynghlwm wrth ddeunyddiau CAC ar ffurf label fod wedi ei lliwio’n felyn.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2020