
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 18 Mawrth 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal heintiedig” (“infectedarea”) yw unrhyw ardal (gan gynnwys gwlad) y mae‘r Ysgrifennydd Gwladol wedi datgan, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.gov.uk, fel ardal lle y gwyddys neu y tybir bod Coronafeirws yn cael ei drosglwyddo’n gyson o fod dynol i fod dynol, neu y mae risg uchel y caiff haint neu halogiad (â Choronafeirws) eu mewnforio drwy deithio o’r ardal honno i’r Deyrnas Unedig;
 ystyr “Coronafeirws” (“Coronavirus”) yw Coronafeirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) sy’n achosi’r clefyd a elwir yn “COVID-19”;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;
 ystyr “gofynion ynglŷn â sgrinio” (“screeningrequirements”) yw’r gofynion a nodir yn rheoliad 6(1);
 ystyr “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;
 ystyr “oedolyn cyfrifol” (“responsibleadult”), mewn perthynas â phlentyn, yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989) neu berson sydd â’r plentyn o dan ei warchodaeth neu ei ofal am y tro;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
 ystyr “swyddog iechyd cyhoeddus” (“public health officer”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu berson sy’n gweithio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru o dan oruchwyliaeth ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig;
 ystyr “swyddog meddygol” (“medical officer”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig a ddynodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig” (“registered public health consultant”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus a gofrestrwyd yn broffesiynol ac sy’n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru;
 ystyr “ynysu” (“isolation”) mewn perthynas â pherson yw gwahanu’r person hwnnw oddi wrth unrhyw berson arall mewn modd sy’n atal heintio neu halogi (â Choronafeirws)—
(a) mewn cyfleuster a ddynodir, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.llyw.cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;
(b) yng nghartref y person hwnnw;
(c) mewn ysbyty;
(d) mewn man addas arall.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at haint neu halogiad, sut bynnag y’i mynegir, yn gyfeiriad at haint neu halogiad â Choronafeirws, ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hynny.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1984 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.
(4) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y diffiniad o “ynysu” ym mharagraff (1) gael ei ddilyn, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drwy gyhoeddi’r hysbysiad yn y London Gazette ac mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yng Nghymru.
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn datgan, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.llyw.cymru, fod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd, a bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws wedi cyrraedd pwynt lle y byddai’n rhesymol ystyried bod y mesurau a amlinellir yn y Rheoliadau hyn yn ffordd effeithiol o oedi neu atal trosglwyddiad arwyddocaol pellach Coronafeirws (“datganiad bygythiad difrifol ac uniongyrchol”).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad bygythiad difrifol ac uniongyrchol drwy hysbysiad dilynol a gyhoeddir ar www.llyw.cymru.
(3) Cyn gwneud datganiad o dan baragraff (1), neu ddirymu datganiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i unrhyw gyngor gan Brif Swyddog Meddygol neu un o Ddirprwy Brif Swyddogion Meddygol Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
(4) Nid yw cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (2) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gamau a gymerir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn cyhoeddi’r hysbysiad.
(5) Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1) neu (2) gael ei ddilyn drwy gyhoeddi’r hysbysiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn y London Gazette ac mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yng Nghymru.
4 

(1) Pan fo Amod A neu B wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, at ddibenion sgrinio, asesu a gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5, osod gofyniad ar P i’w gadw tan ba un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—
(a) diwedd y cyfnod o 48 awr sy’n dechrau â’r amser y mae cadwad P o dan y rheoliad hwn yn dechrau;
(b) unrhyw amser y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion ynglŷn â sgrinio a osodwyd ar P neu mewn perthynas â P o dan reoliad 5(1) ac y cyflawnwyd yr asesiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw mewn perthynas â P.
(2) Amod A yw—
(a) bod gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, a
(b) bod Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried bod risg y gallai P heintio neu halogi eraill.
(3) Amod B yw bod P—
(a) wedi cyrraedd Cymru ar awyren, llong neu drên o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, boed yn uniongyrchol ynteu drwy Ogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr, a
(b) wedi ymadael ag ardal heintiedig, neu fod gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ymadael ag ardal heintiedig, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyrhaeddodd P Gymru.
(4) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan bod hwnnw yn ddibynnol y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.
5 

(1) Pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—
(a) (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio i lywio asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ynghylch a yw P yn cyflwyno risg o heintio neu halogi eraill neu a allai beri risg o heintio neu halogi eraill,
(b) cyflawni asesiad o’r fath mewn perthynas â P, ac
(c) yn dilyn asesiad o’r fath, (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall y mae Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion dileu neu leihau’r risg y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig.
(2) Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried, wrth wneud y penderfyniad, fod y cyfyngiad neu’r gofyniad yn gymesur â’r hyn y ceisir ei gyflawni drwy ei osod y caniateir gwneud penderfyniad i osod cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1).
(3) Caniateir i gyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan baragraff (1)—
(a) gan Weinidogion Cymru gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru;
(b) gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru neu gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig.
(4) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1)(c) ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r cyfyngiad neu’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.
(5) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad ar lafar ar berson o dan y rheoliad hwn, neu pan gaiff cyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn ei amrywio ar lafar, rhaid darparu i’r person (neu, yn achos plentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn) hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfyngiad neu’r gofyniad a osodwyd neu a amrywiwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan baragraff (1)(c), rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan ei fod yn ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.
(7) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 8.
6 

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r gofynion ynglŷn â sgrinio, mewn perthynas â pherson (“P”) yn ofynion i’r perwyl bod rhaid i P─
(a) ateb cwestiynau am iechyd P neu ei amgylchiadau perthnasol eraill (gan gynnwys hanes teithio a gwybodaeth am unigolion eraill y gallai P fod wedi bod mewn cysylltiad â hwy),
(b) dangos unrhyw ddogfennau a all gynorthwyo ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu swyddog iechyd cyhoeddus wrth asesu iechyd P,
(c) ar unrhyw adeg ag y caiff ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei bennu, caniatáu i swyddog iechyd cyhoeddus, neu swyddog meddygol, gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu ddarparu sampl o’r fath, a
(d) darparu digon o wybodaeth i alluogi swyddog iechyd cyhoeddus i gysylltu â P ar unwaith yn ystod unrhyw gyfnod y caiff ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei bennu, pan fo’r ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried bod darparu gwybodaeth o’r fath yn angenrheidiol er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.
(2) Pan fo P—
(a) yn blentyn, a
(b) yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
mae paragraff (3) yn gymwys.
(3) Rhaid i’r oedolyn cyfrifol─
(a) sicrhau bod P yn ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (1)(a),
(b) ateb y cwestiynau os na all P wneud hynny neu os na all wneud hynny mewn modd dibynadwy,
(c) dangos unrhyw ddogfennau, sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(b), ar ran P,
(d) caniatáu i swyddog iechyd cyhoeddus, neu swyddog meddygol, gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu ddarparu sampl o’r fath, ac
(e) darparu gwybodaeth pan fydd swyddog iechyd cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol o dan baragraff (1)(d).
7 

(1) Mewn achos pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”)—
(a) yn dilyn asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, o’r risg a gyflwynir gan P yn unol â rheoliad 5(1), neu
(b) yn dilyn rhyddhau P ar ôl cael ei gadw o dan reoliad 5, neu ar ôl cael ei ynysu o dan reoliad 8,
caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir ym mharagraff (2) pan fo Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.
(2) Y gofynion a bennir yn y paragraff hwn yw bod P—
(a) yn darparu manylion cysylltu P i swyddog iechyd cyhoeddus;
(b) yn rhoi gwybodaeth i swyddog iechyd cyhoeddus a allai gynorthwyo i asesu iechyd P;
(c) ar unrhyw adeg y caiff swyddog iechyd cyhoeddus ei bennu, yn caniatáu i’r swyddog neu i swyddog meddygol gymryd sampl fiolegol gan P, gan gynnwys sampl o secretiadau resbiradol neu waed P, drwy ddulliau priodol gan gynnwys drwy swabio ceudod trwyn a ffaryncs P, neu’n darparu sampl o’r fath;
(d) yn cydymffurfio ag unrhyw amod arall a bennir neu’n cymryd unrhyw fesur arall a bennir.
(3) Mae’r amodau neu’r mesurau y caniateir eu pennu o dan baragraff (2)(d) yn cynnwys—
(a) cyfyngiad ar deithio gan P;
(b) cyfyngiad ar weithgareddau P;
(c) cyfyngiad ar gyswllt P â phersonau a bennir.
(4) Ni chaiff y cyfnod y gosodir cyfyngiad ar ei gyfer o dan baragraff (3) fod yn hwy na 14 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cyfyngiad.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig (ar lafar neu mewn ysgrifen)—
(a) amrywio unrhyw ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn, a
(b) gosod ar P unrhyw ofynion ychwanegol a bennir ym mharagraff (2).
(6) Cyn gosod neu amrywio gofyniad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—
(a) rhoi gwybod i P (neu pan fo P yn blentyn, rhoi gwybod i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P) am y gofyniad neu’r amrywiad y mae Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn meddwl ei osod neu ei wneud, a
(b) rhoi sylw i unrhyw sylwadau perthnasol gan P (neu, pan fo P yn blentyn, gan berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P), o ran ei addasrwydd.
(7) Pan fo gofyniad o dan y rheoliad hwn yn cael ei osod ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, neu’n cael ei amrywio mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn gosod gofyniad ar P ar lafar o dan y rheoliad hwn, neu’n amrywio gofyniad o’r fath ar lafar, rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ddarparu i P (neu pan fo P yn blentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P) hysbysiad ysgrifenedig o’r gofyniad sydd wedi ei osod neu wedi ei amrywio.
(9) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 5(1)(c).
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P gael ei ynysu os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—
(a) â sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, a
(b) yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y bydd P yn heintio neu’n halogi eraill.
(3) Pan fo gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig sail resymol dros gredu bod P wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef, caiff yr ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gadw P hyd nes y ceir penderfyniad Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, penderfyniad ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig o dan baragraff (2).
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig osod un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio ar P neu mewn perthynas â P.
(5) Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan bod hwnnw’n ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.
(6) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 5(1)(c).
9 

(1) Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i lesiant P.
(2) Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7 am gyfnod sy’n hwy na 14 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad cadwad P cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.
(3) Ar ôl pob cyfnod dilynol o 24 awr pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad ac amodau cadwad P drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.
(4) Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â gofynion ynglŷn â sgrinio os yw Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y gallai P heintio neu halogi eraill.
(5) Pan fo P wedi ei gadw o dan reoliad 4, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P symud i le addas.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig hysbysu P (neu, pan fo P yn blentyn, hysbysu person sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P), cyn gynted ag y bydd cadwad P o dan reoliad 4 neu 5 yn dechrau, neu cyn gynted ag y penderfynir ynysu P o dan reoliad 8, o’r canlynol─
(a) y ffaith bod P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu,
(b) y pwerau y mae P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu odanynt,
(c) y rheswm dros gadw neu ynysu P,
(d) y camau nesaf a all gael eu cymryd a chan bwy,
(e) y rhwymedigaeth i barhau i adolygu’r angen i gadw neu ynysu P,
(f) y gosb ar gyfer—
(i) dianc, neu geisio dianc, rhag cael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 15(1)(b);
(ii) darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid o dan reoliad 15(2);
(iii) rhwystro person rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn o dan reoliad 15(3), ac
(g) yr hawl i apelio i’r llys ynadon o dan reoliad 12, pan fo’n gymwys.
10 

(1) Mae’r pwerau yn rheoliadau 4, 5 ac 8 yn cynnwys pwerau i osod cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas â grŵp o bersonau, gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig.
(2) At y dibenion hynny mae’r rheoliadau hynny yn cael effaith fel a ganlyn.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2), mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at bob person yn y grŵp;
(b) ym mharagraff (3), mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at bob person yn y grŵp sydd wedi cyrraedd ar yr un awyren, llong neu drên ac wedi ymadael â’r un ardal;
(c) ym mharagraff (1) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â hynny, ac mae’r pŵer i osod gofyniad i’w gadw i’w ddarllen fel pŵer i osod y gofyniad hwnnw ar unrhyw un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.
(4) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â pharagraff (3) o’r rheoliad hwn;
(b) yng ngweddill y paragraff hwnnw, mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.
(5) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at “person” i’w ddarllen yn unol â pharagraff (3) o’r rheoliad hwn;
(b) yng ngweddill y rheoliad hwnnw, mae cyfeiriadau at P yn gyfeiriadau at un neu ragor o’r personau yn y grŵp o dan sylw.
11 

(1) Caiff person y gosodir cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn apelio i’r llys ynadon yn erbyn y penderfyniad i osod y gofyniad neu’r cyfyngiad hwnnw.
(2) Caiff person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn y gosodir cyfyngiad neu ofyniad mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn apelio i’r llys ynadon yn erbyn y penderfyniad i osod y cyfyngiad neu’r gofyniad hwnnw.
12 

(1) Pan osodir gofyniad i berson gael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 4, 5 neu 8, caiff cwnstabl wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a) mynd â’r person i le addas, a bennir gan Weinidogion Cymru neu swyddog iechyd cyhoeddus, i gadw’r person neu i’w ynysu;
(b) cadw’r person o dan gadwad neu wedi ei ynysu.
(2) Pan fo person yn dianc o gyfnod cadw neu ynysu a osodwyd o dan reoliad 4, 5 neu 8, caiff cwnstabl fynd â’r person i’r ddalfa a dychwelyd y person i’r man cadw neu ynysu, neu fynd â’r person i le addas arall a bennir gan swyddog iechyd cyhoeddus.
(3) Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol, os bydd ei angen, wrth arfer pŵer o dan y rheoliad hwn.
13 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os oes gan gwnstabl sail resymol dros amau—
(a) bod person (“P”) wedi ei heintio neu wedi ei halogi â Choronafeirws, neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi ag ef,
(b) bod risg y gallai P heintio neu halogi eraill, ac
(c) ei bod yn angenrheidiol cyfarwyddo, symud neu gadw P er budd P, er mwyn diogelu personau eraill neu er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd.
(2) Caiff cwnstabl—
(a) cyfarwyddo P i fynd ar unwaith i ysbyty neu le addas arall a bennir yn y cyfarwyddyd at ddibenion sgrinio, asesu a gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5,
(b) symud P i ysbyty neu le addas arall at ddibenion gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5, neu
(c) os yw P eisoes mewn ysbyty neu le addas arall, cadw P yn y lle hwnnw neu symud P i ysbyty arall neu le addas arall at ddibenion gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5.
(3) Caniateir i’r pŵer ym mharagraff (2) gael ei arfer pan fo P mewn unrhyw le.
(4) At ddiben arfer y pŵer ym mharagraff (2), caiff cwnstabl fynd i mewn i unrhyw le.
(5) Cyn arfer y pŵer ym mharagraff (2) rhaid i’r cwnstabl—
(a) cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ymgynghori ag ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig a rhoi sylw dyledus i farn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig mewn perthynas â P,
(b) rhoi sylw priodol i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, ac
(c) pan nad ymgynghorwyd o dan is-baragraff (a)—
(i) ymgynghori ag ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r pŵer ym mharagraff (2) gael ei arfer, a
(ii) rhoi sylw priodol i farn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig mewn perthynas â P.
(6) Caniateir i berson sy’n cael ei symud i ysbyty neu fan addas arall neu ei gadw mewn ysbyty neu fan addas arall o dan y rheoliad hwn gael ei gadw yno am gyfnod nad yw’n hwy na’r cyfnod cadw a ganiateir.
(7) Caiff cwnstabl neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu berson a awdurdodir gan y naill neu’r llall ohonynt at ddibenion y paragraff hwn, fynd â pherson a gedwir mewn ysbyty neu le addas arall i un neu ragor o ysbytai neu leoedd addas eraill, cyn diwedd y cyfnod cadw a ganiateir.
(8) Caniateir i berson a gymerir i ysbyty neu le addas arall o dan baragraff (7) gael ei gadw yno am gyfnod sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na’r cyfnod cadw a ganiateir.
(9) Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol, os bydd ei angen, wrth arfer pŵer o dan y rheoliad hwn.
(10) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “y cyfnod cadw a ganiateir” (“the permitted period of detention”) yw’r cyfnod cadw cychwynnol a’r cyfnod estynedig a awdurdodir;
 ystyr “y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw’r cyfnod o 24 awr sy’n dechrau—
(a) mewn achos pan symudir y person i ysbyty neu le addas arall, â’r amser y mae’r person yn cyrraedd y lle hwnnw, neu
(b) mewn achos pan gedwir y person mewn ysbyty neu le addas arall, â’r amser y mae’r cwnstabl yn penderfynu cadw’r person yn y lle hwnnw;
 ystyr “y cyfnod estynedig a awdurdodir” (“the authorised extended period”) yw unrhyw gyfnod pellach a bennir mewn awdurdodiad o dan baragraff (11).
(11) Caiff cwnstabl neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ar unrhyw adeg cyn i’r cyfnod cychwynnol ddod i ben, awdurdodi cadw person am gyfnod pellach heb fod yn hwy na 24 awr (gan ddechrau ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol).
(12) Dim ond os yw’r person sy’n rhoi’r awdurdodiad yn ystyried bod yr estyniad yn angenrheidiol am nad yw’n rhesymol ymarferol i gwblhau gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 5 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol y caniateir rhoi awdurdodiad o dan baragraff (11).
14 

(1) Mae person (“P”) yn cyflawni trosedd os bydd P—
(a) yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â chyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan reoliad 4(1), 5(1), 7(1) neu 9(4) neu (5);
(b) yn dianc, neu’n ceisio dianc, rhag cael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 4, 5 neu 8.
(2) Mae person sy’n darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid i unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(4) Mae oedolyn cyfrifol sy’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â rheoliad 5(4), 6(3) neu 7(7) yn cyflawni trosedd.
(5) Mae trosedd a bennir ym mharagraffau (1), (2), (3) neu (4) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
15 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y deuant i rym.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3:15 p.m. ar 17 Mawrth 2020