
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2020.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£14.30” rhodder “£14.70”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£46.00” rhodder “£47.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£199.10” rhodder “£203.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£199.10” rhodder “£203.00”;
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£14.30” rhodder “£14.70”.
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2020