
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfer Taliadau Diffygdaliad) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 28 Ebrill 2020.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “deiliad contract” yr un ystyr ag a roddir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2 

(1) Mae’r terfyn rhagnodedig yn achos methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i landlord erbyn y dyddiad dyledus i’w bennu fel a ganlyn.
(2) Yn achos methiant i dalu rhent cyn diwedd y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad dyledus, y terfyn rhagnodedig yw sero.
(3) Yn achos methiant i dalu rhent ar ôl diwedd y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad dyledus, y terfyn rhagnodedig yw cyfanswm y symiau a geir drwy gymhwyso cyfradd ganrannol flynyddol sydd dri y cant yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr, mewn perthynas â phob diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus y mae’r rhent yn dal heb ei dalu ar ei gyfer, i swm y rhent sy’n dal heb ei dalu ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” yw’r gyfradd ganrannol a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian.
(5) Ond pan fo gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998 mewn grym, mae unrhyw gyfradd ganrannol gyfatebol a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno yn gymwys.
3 
Mae’r disgrifiadau ychwanegol o ddiffygdaliadau y pennir terfyn rhagnodedig mewn cysylltiad â hwy fel a ganlyn—
(a) toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract sy’n golygu bod rhaid newid, ychwanegu neu dynnu ymaith glo sy’n rhoi mynediad i’r annedd y mae contract deiliad y contract yn ymwneud â hi, a
(b) toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract sy’n golygu bod rhaid amnewid allwedd neu ddyfais ddiogelwch arall sy’n rhoi mynediad i’r annedd y mae’r contract yn ymwneud â hi.
4 

(1) Y terfyn rhagnodedig mewn cysylltiad â’r disgrifiadau o daliadau diffygdaliad a bennir yn rheoliad 3 yw’r swm sy’n gyfwerth â chost wirioneddol yr amnewid, y newid, yr ychwanegu neu’r tynnu ymaith.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cost wirioneddol” yw cost yr allwedd, y ddyfais ddiogelwch neu’r clo, y darperir tystiolaeth ohoni ar ffurf anfoneb neu dderbynneb.
(3) Pan fo contractiwr trydydd parti yn ymgymryd ar ran y landlord ag amnewid allwedd neu ddyfais ddiogelwch arall neu â newid, ychwanegu neu dynnu ymaith glo, yn unol â’r cyfeiriad yn rheoliad 3, mae’r “gost wirioneddol” yn cynnwys cost llafur y contractiwr hwnnw, y darperir tystiolaeth ohoni ar ffurf anfoneb neu dderbynneb.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Chwefror 2020