
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 1 Ionawr 2021—
(a) paragraffau 7 ac 8 o Ran 2 o Atodlen 5 (darpariaethau sy’n ymwneud â Chymru), a
(b) adran 46 (Cymru), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Rhagfyr 2020