
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronavirus) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 

(1) Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.), cyn Rhan 4, mewnosoder—“
12C. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—
(a) wedi cyrraedd Cymru o Dde Affrica, neu
(b) wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae Rheoliadau 7(1) a 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel petai cyfeiriadau i “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau i “Dde Affrica”.
(3) Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i diwygiwyd gan baragraph (2), hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(6) Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.
(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—“
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a) am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii) i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;
(b) os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.”
(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2).”
(2) Ar ôl rheoliad 12C mewnosoder—“
RHAN 3B
12D. 

(1) Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn De Affrica beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—
(a) diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu.
(b) iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a) awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b) awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “cyrraedd” yw—
(i) mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii) mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan arall;
(b) ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.”
(3) Yn rheoliad 14(1)—
(a) yn is-baragraff (e), hepgorer “neu”;
(b) yn is-baragraff (f), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(g) 12D(1),”.
3 
Nid yw rheoliad 12D o Reoliadau Teithio Rhyngwladol a fewnosodir gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
RHAN 3
4 

(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—“
11A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yng Nghymru am 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020,
(b) wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020, ac
(c) wedi bod yn Ne Affrica o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gadawodd P De Affrica.
(3) Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—
(a) am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b) am gyfeiriad y man hwnnw.”
11B. 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11A(2).
(2) Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo—
(a) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b) os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c) er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.”
(3) Yn rheoliad 12, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
(4) Yn rheoliad 14(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.”
(5) Yn rheoliad 22(4)(a), ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
(6) Yn rheoliad 30, ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)” ynlle “neu 9(2)” rhodder “, 9(2) neu 11A(2)”.
(7) Yn rheoliad 40—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “9(2),” mewnosoder “11A(2)”;
(ii) yn is-baragraff (b), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”;
(b) ym mharagraff (2)(a), ynlle “neu 9(3)” rhodder “, 9(3) neu 11A(3)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, un o Weinidogion Cymru
23 Rhagfyr 2020