
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2020.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) dylai ffurfio is-baragraff eu hunain a cael ei rifo fel is-baragraff.
(b) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiadau tir a ganlyn sydd â dyddiad effeithiol ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020—
(a) trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch y mae Tabl 2 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt;
(b) trafodiadau eiddo amhreswyl y mae Tabl 3 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt; a
(c) cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent y mae Tabl 4 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddi.
4 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch)—
(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020; neu
(b) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020 ac nad yw wedi ei hepgor gan reoliad 5.
5 
Mae trafodiad wedi ei hepgor gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020—
(a) pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020;
(b) pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020; neu
(c) pan geir, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drawsgludiad o ganlyniad iddo.
6 

(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn lle Tabl 2 rhodder—“

Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf Nid mwy na £180,000 4%
Yr ail fand treth Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 7.5%
Y trydydd band treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 9%
Y pedwerydd band treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 11.5%
Y pumed band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 14%
Y chweched band treth Mwy na £1,500,000 16%”;
(3) Yn lle Tabl 3 rhodder—“

Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £225,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 5%
Y trydydd band treth Mwy na £1,000,000 6%”; a
(4) Yn lle Tabl 4 rhodder—“

Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LA Nid mwy na £225,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £2,000,000 2%”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020