
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”.
4 
Yn rheoliad 4 (ystyr “cwpl”), ym mharagraff (b), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.
5 
Yn rheoliad 10 (gwaith am dâl), ym mharagraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
6 
Yn rheoliad 28 (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) ym mharagraff 4—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (d)—(aa) yn lle “15A(1)” rhodder “16”;(bb) yn lle “(4A)” rhodder “(5)”; ac(cc) ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;
(iii) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—
(i) Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;
(ii) y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno”; neu
(iii) erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 2019 a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.”;
(b) ym mharagraff 8, yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.
7 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 10(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—“
(xvib) tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;”;
(c) ym mharagraff 12 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff 1(ja) mewnosoder—“
(jb) tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o’r Ddeddf honno;”;
(d) ym mharagraff 13 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff 2(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
(e) ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (15)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(bb) ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(cc) ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir yn rhinwedd adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;
(ii) yn is-baragraff (16)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(bb) ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
8 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” ac “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.
9 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(j), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
(ii) yn is-baragraff (1)(k), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
(c) ym mharagraff 15 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff 3(d), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
(d) ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—
(i) yn is-baragraff (15)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(bb) ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(cc) ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;
(ii) yn is-baragraff (16)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;(bb) ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
10 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20 ac yn lle “£61.70” rhodder £62.75;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder £79.20;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder £124.45;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95” a “£49.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.
11 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 24.
12 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “absenoldeb profedigaeth rhiant” (“parental bereavement leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”.
13 
Ym mharagraff 4(b) (ystyr “cwpl”), ar ôl “yn gwpl priod” mewnosoder “neu’n bartneriaid sifil”.
14 
Ym mharagraff 10 (gwaith am dâl), yn is-baragraff 7, ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
15 
Ym mharagraff 19 (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) yn is-baragraff (4)—
(i) ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;
(ii) ym mharagraff (d)—(aa) yn lle “15A(1)” rhodder “16”;(bb) yn lle “(4A)” rhodder “(5)”;(cc) ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “; neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(e) y ffaith y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, neu i aros ynddi, i berson o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd—
(i) Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;
(ii) y ffaith ei fod yn berson sydd â hawl Zambrano i breswylio fel y’i diffinnir yn Anecs 1 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno; neu
(iii) erthygl 3 (rhoi caniatâd i wladolion AEE a’r Swistir) o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â’r UE) 2019 a wnaed o dan adran 3A o’r Ddeddf honno.”;
(c) yn is-baragraff (8), yn y diffiniad o “Rheoliadau AEE” yn lle “2006” rhodder “2016”.
16 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.75” rhodder “£14.65”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.55” rhodder “£4.85”;
(c) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£210.00” rhodder “£217.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” rhodder “£217.00”, “£377.00” a “£9.75” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” rhodder “£377.00”, “£469.00” a “£12.25” yn y drefn honno.
17 
Ym mharagraff 36(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl paragraff (xvia), mewnosoder—“
(xvib) tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;”.
18 
Ym mharagraff 38(1) (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl paragraff (ja) mewnosoder—“
(jb) tâl profedigaeth rhiant statudol o dan Ran 12ZD o DCBNC;”.
19 
Ym mharagraff 39(2)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
20 
Ym mharagraff 48(1) (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff (j) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”;
(b) ym mharagraff (k) ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”.
21 
Ym mharagraff 49(3)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol”.
22 
Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—
(a) yn is-baragraff (15)—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
(ii) ym mharagraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
(iii) ym mharagraff (c), ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl profedigaeth rhiant statudol yn rhinwedd adran 171ZZ o’r Ddeddf honno”;
(b) yn is-baragraff (16)—
(i) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb rhiant a rennir” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
(ii) ym mharagraff (b) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”;
(iii) ym mharagraff (c) ar ôl “tâl rhiant statudol a rennir” mewnosoder “tâl profedigaeth rhiant statudol”,
23 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£167.25” a “£181.00” rhodder “£173.80” a “£187.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£255.25” a “£270.60” rhodder “£265.20” a “£280.85” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£255.25” ac “£88.00” rhodder “£265.20” ac “£91.40” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£270.60” a “£89.60” rhodder “£280.85” a “£93.05” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95 ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£26.04” rhodder “£26.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”.
24 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£77.90” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.20” ac yn lle “£61.70” rhodder “£62.75”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£77.90” rhodder “£79.20”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£122.35” rhodder “£124.45”;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£34.35” ac “£48.95” rhodder “£34.95 a “£49.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£65.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£66.95” ac yn lle “£131.70” rhodder “£133.90”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£64.19” rhodder “£65.52;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.85” rhodder “£37.50”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” rhodder “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£38.55” rhodder “£39.20”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2020