
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am ar 14 Rhagfyr 2020.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996;
(b) mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(c) ystyr “gweithiwr hanfodol” yw gweithiwr y mae’r awdurdod leol yn ei ystyried i fod yn weithiwr hanfodol ar ôl rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar adnabod plant gweithwyr hanfodol;
(d) ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
(i) sefydliad o fewn y sector addysg bellach;
(ii) darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000—(aa) nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),(bb) nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac(cc) sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
(e) mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
(f) mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(g) mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
(h) mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol ac, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, ystyr “perchennog” yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;
(i) mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;
(j) mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
(k) mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
(l) ystyr “ysgol arbennig” yw—
(i) ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
(ii) ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
(m) mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
(n) ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
(o) ystyr “blwyddyn 7” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 12 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;
(p) ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.
2 

(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
3 

(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu disgybl ym mlwyddyn 7 neu uwch i fynd i fangre’r ysgol yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar ddechrau’r dydd ar 14 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn weithiwr hanfodol.
(3) Ac nid yw paragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—
(a) disgybl rhag mynd i fangre ysgol—
(i) i wneud arholiad neu asesiad arall;
(ii) pan fo perchennog yr ysgol yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y disgybl;
(b) disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;
(c) disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;
(d) disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, lle—
(i) mae awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi’i neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
(ii) bod y disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
(e) disgybl sy’n ddisgybl preswyl rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.
4 

(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr i fynd i fangre sefydliad addysg bellach yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar ddechrau’r dydd ar 14 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu myfyriwr i fynd i fangre—
(a) sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;
(b) sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.
5 
Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio gyda rheoliadau 3 neu 4 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.
Mark Drakeford
Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 9.42 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020