
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2)(c)—
(a) ym mharagraff (i), ar ôl “ffilm” mewnosoder “mewn sinema o sedd cerbyd”;
(b) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(ia) perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;”.
(3) Yn rheoliad 19, hepgorer paragraff (1A).
(4) Yn rheoliad 47, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema neu’n theatr o sedd cerbyd—
(a) os yw’r fangre yn yr awyr agored, a
(b) o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—
(i) ni chaniateir iddynt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a
(ii) ni chaniateir iddynt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.”
(5) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 3, ar ôl “Theatrau” mewnosoder “ac eithrio theatrau o sedd cerbyd”;
(b) ym mharagraff 6, ar ôl “arcedau diddanu” mewnosoder “, parciau a chanolfannau trampolîn, parciau a chanolfannau sglefrio o dan do”;
(c) ym mharagraff 8, ar ôl “Sinemâu” mewnosoder “ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 4.52 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020