
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2021.
(3) Mae’r darpariaethau yn—
(a) rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) ac 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;
(b) rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;
(c) rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;
(d) rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;
(e) rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;
(f) rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;
(g) rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 
Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (lle nodir Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (“Cynllun 1992”)), wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn Rhan B (dyfarndaliadau personol), yn rheol B5A (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “exceeds” rhodder “is lower than”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) The amount of the first pension determined under paragraph (3) or (4B)(a), is increased for each year before the firefighter’s last day of service by an amount equivalent to that which would apply if the first pension were a pension in payment commencing from the day after the date of the firefighter’s last day of service at the higher rate of pay, to which the Pensions (Increase) Act 1971 applied.”;
(c) ym mharagraff (6), ar ôl “B1,” mewnosoder “B1A,”;
(d) ym mharagraff (9), yn lle “paragraph (3)” rhodder “paragraph (4)”.
4 

(1) Yn Rhan C (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau)—
(a) yn rheol C1 (pensiwn cyffredin priod)—
(i) ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer paragraff (2A);
(b) yn rheol C4 (pensiwn cronedig priod), ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;
(c) yn rheol C5 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)—
(i) ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer paragraff (3);
(d) yn rheol C6 (budd angenrheidiol a phensiwn dros dro priod neu bartner sifil), ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;
(e) yn rheol C8 (cyfyngiad pan fo priodau yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.
(2) Yn Rhan J (achosion arbennig), yn rheol J1 (lleiafswm pensiwn gwarantedig)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) in the case of a person who dies at any time and leaves a widow, a surviving same sex spouse or surviving civil partner, that person is entitled to a pension of a weekly rate equal to half the deceased person’s guaranteed minimum, and”;
(ii) hepgorer is-baragraff (d) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “, (c) or (d)” rhodder “or (c)”.
(3) Yn Atodlen 1 (dehongli) i Gynllun 1992, hepgorer paragraffau 1 a 2 o Ran 3 (darpariaeth yn ymwneud â chyplau o’r un rhyw).
(4) Yn Atodlen 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau) i Gynllun 1992—
(a) yn Rhan 3 (pensiwn cronedig priod)—
(i) ym mharagraff 2(1), ar ôl “spouse’s” mewnosoder “, or surviving civil partner’s,”;
(ii) ym mharagraff 3(1), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(b) yn Rhan 4 (pensiwn i briod sy’n goroesi o briodas ar ôl ymddeol), ym mharagraffau 1(1) a 2(1), ar ôl “surviving spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”.
5 
Yn Rhan IA (aelodau credyd pensiwn), yn rheol IA2(1) (cymudo’r buddion credyd pensiwn), yn lle “In the circumstances described in regulation 3(2)(b) of the Pension Sharing (Pension Credit Benefit) Regulations 2000 (commutation of pension credit benefit: small pensions)” rhodder “Where the amount of pension payable under rule IA1 does not exceed the trivial commutation lump sum limit in paragraph 7 of Schedule 29 to the Finance Act 2004 (lump sum rule)”.
RHAN 3
6 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (lle nodir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Cynllun 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 7 i 9.
7 
Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “ym mharagraffau (3) a (4)” rhodder “ym mharagraffau (3), (3A) a (4)”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Caiff swm y pensiwn cyntaf a ddyfernir o dan baragraff (3) ei gynyddu bob blwyddyn cyn diwrnod gwasanaeth olaf y diffoddwr tân o swm sy’n gyfwerth â’r swm a fyddai’n gymwys pe byddai’r pensiwn cyntaf yn bensiwn a delir gan gychwyn o’r dyddiad yr oedd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i’r aelod, yr oedd Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 yn gymwys iddo.”
8 
Yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru), yn rheol 2 (cymudo’r cyfan o fuddion credyd pensiwn), ym mharagraff (1), yn lle “O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Rhannu Pensiwn (Budd Credyd Pensiwn) 2000 (cymudo budd credyd pensiwn: pensiynau bach)” rhodder “Pan na fo swm y pensiwn sy’n daladwy o dan y Rhan hon yn fwy na therfyn y cyfandaliad mân gymudiad o fewn ystyr “trivial commutation lump sum” ym mharagraff 7 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004 (y rheol ynghylch cyfandaliadau)”.
9 
Yn Atodiad ZA, yn lle’r Tabl rhodder—“

Blynyddoedd Oedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn
0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11
Islaw50 23.4
50 22.4 22.3 22.3 22.3 22.3 22.2 22.2 22.2 22.2 22.1 22.1 22.1
51 22.1 22.0 22.0 22.0 22.0 21.9 21.9 21.9 21.9 21.8 21.8 21.8
52 21.8 21.7 21.7 21.7 21.7 21.6 21.6 21.6 21.6 21.5 21.5 21.5
53 21.5 21.4 21.4 21.4 21.3 21.3 21.3 21.3 21.2 21.2 21.2 21.1
54 21.1 21.1 21.1 21.0 21.0 21.0 21.0 20.9 20.9 20.9 20.9 20.8
55 20.8 20.8 20.8 20.7 20.7 20.7 20.6 20.6 20.6 20.5 20.5 20.5
56 20.4 20.4 20.4 20.4 20.3 20.3 20.3 20.2 20.2 20.2 20.1 20.1
57 20.1 20.0 20.0 20.0 19.9 19.9 19.9 19.8 19.8 19.8 19.7 19.7
58 19.7 19.6 19.6 19.6 19.5 19.5 19.5 19.4 19.4 19.4 19.3 19.3
59 19.3 19.2 19.2 19.2 19.1 19.1 19.1 19.0 19.0 19.0 18.9 18.9
60 18.9 18.8 18.8 18.7 18.7 18.7 18.6 18.6 18.6 18.5 18.5 18.5
61 18.4 18.4 18.4 18.3 18.3 18.2 18.2 18.2 18.1 18.1 18.1 18.0
62 18.0 18.0 17.9 17.9 17.8 17.8 17.8 17.7 17.7 17.7 17.6 17.6
63 17.5 17.5 17.5 17.4 17.4 17.4 17.3 17.3 17.2 17.2 17.2 17.1
64 17.1 17.1 17.0 17.0 16.9 16.9 16.9 16.8 16.8 16.8 16.7 16.7
65 16.6 16.6 16.6 16.5 16.5 16.5 16.4 16.4 16.3 16.3 16.3 16.2
66 16.2 16.2 16.1 16.1 16.0 16.0 16.0 15.9 15.9 15.9 15.8 15.8
67 15.7 15.7 15.7 15.6 15.6 15.6 15.5 15.5 15.4 15.4 15.4 15.3
68 15.3 15.2 15.2 15.2 15.1 15.1 15.1 15.0 15.0 14.9 14.9 14.9
69 14.8 14.8 14.7 14.7 14.7 14.6 14.6 14.5 14.5 14.5 14.4 14.4
70 14.3 14.3 14.3 14.2 14.2 14.1 14.1 14.0 14.0 14.0 13.9 13.9
71 13.8 13.8 13.8 13.7 13.7 13.6 13.6 13.5 13.5 13.5 13.4 13.4
72 13.3 13.3 13.2 13.2 13.2 13.1 13.1 13.0 13.0 12.9 12.9 12.8
73 12.8 12.8 12.7 12.7 12.6 12.6 12.5 12.5 12.4 12.4 12.3 12.3
74 12.3 12.2 12.2 12.1 12.1 12.0 12.0 11.9 11.9 11.8 11.8 11.7
75 11.7 ”
RHAN 4
10 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (lle nodir Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“Cynllun Digolledu 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 11 a 12.
11 
Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)—
(a) yn rheol 1 (dyfarndaliad arbennig ar gyfer priod neu bartner sifil), ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b);
(b) yn rheol 3 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)—
(i) ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer paragraff (3);
(c) yn rheol 4 (cyfyngiad pan fo’r priod neu’r partner sifil yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.
12 
Yn Rhan 4 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: plant), yn rheol 3 (lwfans arbennig neu rodd ariannol plentyn: cyfyngiadau)—
(a) yn y pennawd, hepgorer “or gratuity”;
(b) hepgorer paragraff (1);
(c) ym mharagraff (5)(a), yn lle “(b) or (c)” rhodder “(2)(b) or (c)”.
RHAN 5
13 
Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015, sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Cynllun 2015”), wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.
14 
Yn Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 45 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb), ar ôl “ymwneud â budd cyflog terfynol aelod” mewnosoder “, ar wahân i daliad o Gynllun 1992 fel y mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon,”.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2020