
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gosodir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 1985, Deddf Tai 1988 neu Ddeddf Rhenti 1977, yn ôl y digwydd.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a) gweithredu gwrit neu warant meddiant;
(b) gweithredu gwrit neu warant adfer; neu
(c) danfon hysbysiad troi allan.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hysbysiad, y writ neu’r warant yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a) yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 1998 yn gymwys iddo;
(b) yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 1985;
(c) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 1985;
(d) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 1988;
(e) yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 yn Atodlen 2 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) i Ddeddf Tai 1988; neu
(f) yn llwyr neu’n rhannol o dan achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977.
(3) Pan fo paragraff 2(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir yn rheoliad 2(1)(a), (b) neu (c).
3 

(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 11 Ionawr 2021.
(2) Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir neu nas gwneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2020