
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Mawrth 2020.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “cwrs penben”, ar ôl “neu 2015”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu o dan y Rheoliadau hyn”.
4 
Yn Atodlen 5 (asesiad ariannol)—
(a) ym mharagraff 5—
(i) yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (3)” mewnosoder “ac is-baragraff (4A)”;
(ii) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Os pennir incwm aelwyd myfyriwr cymwys drwy gyfeirio at incwm gweddilliol dau riant o dan baragraff 3(2)(a), rhaid dehongli’r cyfeiriadau yn is-baragraffau (2), (3) a (4) at incwm gweddilliol A fel pe baent yn gyfeiriadau at swm cyfanredol incymau gweddilliol y ddau riant.”;
(b) ym mharagraff 6(1), ar ôl “(a chan eithrio is-baragraffau” mewnosoder “(4A),”;
(c) ym mharagraff 7—
(i) daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) Ond wrth gymhwyso is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 wrth bennu incwm gweddilliol partner rhiant myfyriwr cymwys newydd, rhaid dehongli’r cyfeiriadau at incwm gweddilliol A yn yr is-baragraffau hynny fel pe baent yn gyfeiriadau at swm cyfanredol incymau gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys newydd a phartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd.”
RHAN 3
5 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 6.
6 
Ym mharagraff 16 o Atodlen 3 (cyfrifo incwm)—
(a) yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a) pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu
(b) mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.”;
(b) yn lle is-baragraff (5) rhodder—“
(5) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a) y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(i) pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF, neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF;
(b) fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.”
RHAN 4
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8 
Ym mharagraff 16 o Atodlen 3 (cyfrifo incwm), yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a) pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincwm gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu
(b) mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2020