
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Dibenion Maethol Penodol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 25 Rhagfyr 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/38”;
(ii) yn y man priodol mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC;”
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn lle Rhan 7 (gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38) rhodder—“
Rhan 7
16. 
Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2020/354.
17. 
Mae person sy’n mynd yn groes i Erthygl 1 (amodau ar farchnata), fel y’i darllenir gydag Erthygl 2 (rhanddirymiad ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2008/38/EC) ac Erthygl 3 (darpariaethau trosiannol ar gyfer bwyd anifeiliaid a labelir cyn 25 Mawrth 2022 yn unol â’r rheolau sy’n gymwys cyn 25 Mawrth 2020), neu sy’n methu â chydymffurfio â hi, yn cyflawni trosedd.”
(4) Yn rheoliad 18 (cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn), ym mharagraff (1), yn lle “17(1)” rhodder “17”.
(5) Yn rheoliad 19 (dyletswyddau i orfodi), ar ôl “Rheoliad 767/2009” mewnosoder “, Rheoliad 2020/354”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas), yn lle paragraff (5) rhodder—“
(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad UE a bennir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y Rheoliad UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl, yn y man priodol ychwaneger y cofnod a ganlyn—“Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodedig, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2020