
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 23 Rhagfyr 2020.
2 
1 Ebrill 2021 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2020