
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2020.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “mynediad o bell” yw mynediad i gyfarfod i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r cyfarfod a chymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt sain byw a chyswllt fideo byw.
3 

(1) Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 57, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu cynnal cyfarfod drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a) y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);
(b) bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;
(c) bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a
(d) bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.”
(3) Yn rheoliad 59—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw” rhodder “ysgrifennu yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.”
(4) Yn rheoliad 72, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Caniateir i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnal drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a) y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);
(b) bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;
(c) bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a
(d) bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.”
(5) Yn rheoliad 73, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.”
(6) Yn Atodlen 7—
(a) hepgorer paragraff 4 (anhwylder meddyliol);
(b) ym mharagraff 7(b), yn lle “gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989” rhodder “gorchymyn anghymhwyso o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2020