
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2 

(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(11)(a)(ii), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6(16)(a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2020