
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Tachwedd 2020 ond—
(a) nid yw erthyglau 2 a 3 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;
(b) nid yw erthyglau 4 a 5 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;
(c) mae erthyglau 6 a 7 yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru neu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Gorchymyn 2007” yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007,
(b) ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ac
(c) ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
RHAN 2
2 
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthygl 3.
3 
Yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Eithriadau cyffredinol) ar ôl paragraff 13 mewnosoder y canlynol—“
13A. 

(1) Any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred.
(2) In this paragraph “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010.
13B. 
Expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.”
RHAN 3
4 
Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 5.
5 
Yn Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (treuliau etholiad: eithriadau cyffredinol)—
(a) ym mharagraff 7A hepgorer is-baragraff (3);
(b) ar ôl paragraff 8 mewnosoder y canlynol—“
8A. 
In relation to a local government election in Wales, expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.”
Rhan 4
6 
Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 7.
7 
Yn Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (eithriadau)—
(a) ym mharagraff 2(1)(d) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “or”;
(b) ym mharagraff 2(1)(e) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “him.” a mewnosoder “him; or”;
(c) ar ôl paragraff 2(1)(e) mewnosoder y canlynol—“
(f) any expenses incurred in respect of a Senedd Cymru election or a local government election in Wales:
(i) relating to any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred; and
(ii) in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.”
(d) ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder y canlynol—“
(3) In relation to sub-paragraph 2(1)(f)(i) “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2020