
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2020.
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1) yn lle “£90” rhodder “£100”;
(b) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”;
(c) yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl) yn lle “£90” rhodder “£100”;
(d) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”.
3 
Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn Rhan 8, rheol 93(x) (personau yr ystyrir bod ganddynt fuddiant digonol i wneud cais am gyfyngiad) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;
(b) yn Atodlen 4 (ffurfiau safonol ar gyfyngiad) yn y cofnod sy’n ymwneud â Ffurf MM—
(i) ym mharagraff (2) yn lle “under the terms of a deferred payment within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71(1) or (5)”;
(ii) yn y pennawd yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;
(iii) yn y geiriau o flaen paragraff (1) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2020