
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu dirymu.
RHAN 3
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc;” mewnosoder “Gibraltar;”;
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
(c) ym mharagraff (5)(b) ac (c), ar ôl “y tu allan i’r diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”;
(d) ym mharagraff (6)—
(i) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii) yn lle “y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”;
(e) ym mharagraff (7), ar ôl “mae ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
5 

(1) Mae’r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) hepgorer y diffiniad o “gwladolyn o’r GE”;
(c) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d) yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, yn lle “gwladolyn o’r GE” rhodder “gwladolyn o’r UE” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(e) yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”.
(3) Ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol, neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(b) yn is-baragraff (ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.
(4) Ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.
(5) Ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o’u teulu)—
(a) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(b) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd” rhodder “y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(6) Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) ym mharagraff (ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(iii) ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar,”;
(b) yn is-baragraff (2)—
(i) yn lle “sydd a chanddo hawl i breswylio’n barhaol ymhob achos” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol ac sydd ymhob achos” ac yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;
(ii) yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;
(c) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”
(7) Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r GE)—
(a) yn y pennawd, yn lle “Gwladolion o’r GE” rhodder “Gwladolion o’r UE”;
(b) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (a)(i), yn lle “yn wladolyn o’r GE” rhodder “yn wladolyn o’r UE”;
(ii) ym mharagraff (c), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c) yn lle is-baragraff (1A) rhodder—“
(1A) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a) sydd—
(i) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii) yn wladolyn o’r UE; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(d) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(8) Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r GE)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sy’n wladolyn o’r UE”;
(b) yn is-baragraff (1)(ch), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;
(c) yn is-baragraff (2), yn lle “yn wladolyn o’r GE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn wladolyn o’r UE”.
(9) Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion o’r Swistir) rhodder—“
11. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(10) Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr o Dwrci), ar ôl “y diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”.
6 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
7 

(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(ii) yn y diffiniad o “gwladolyn o’r AEE”, hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”;
(iii) yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(b) yn yr is-baragraffau a ganlyn, hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd—
(i) is-baragraff (2)(b);
(ii) is-baragraff (3)(b);
(iii) is-baragraff (4)(b);
(iv) is-baragraff (5)(b);
(c) yn is-baragraffau (7) ac (8), ar ôl “diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a) ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(ii) yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ym mharagraff 6(1)(c), (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(ii) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(i) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) yn lle “a chanddo hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;(bb) yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;(cc) yn lle “yn mynd” rhodder “wedi mynd”;
(iv) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”;
(e) ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol—
(i) yn wladolyn o’r UE;
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii) yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (4), yn lle “os yw’r person hwnnw” rhodder “os oedd y person hwnnw yn preswylio yn Gibraltar neu os yw’r person hwnnw”;
(iv) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(f) ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii) yn is-baragraff (d), ar ôl “yn y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(g) yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
11. 

(1) Person—
(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(h) ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth y mae’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
8 

(1) Mae Atodlen 2 (cyfraniad y myfyriwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1(1), yn y diffiniad o “incwm trethadwy”—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE”;
(b) yn lle paragraff (c) rhodder—“
(c) pan fo deddfwriaeth—
(i) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir;
(ii) mwy nag un o Wladwriaethau’r AEE; neu
(iii) un o Wladwriaethau’r AEE a’r Swistir,yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),”.
(3) Yn Rhan 2 (cyfrifo cyfraniad)—
(a) ym mharagraff 3(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys), yn lle “un o Wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE” ym mhob lle y mae’n digwydd.
9 

(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(iii) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, ar ôl “Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc;” mewnosoder “Gibraltar;”;
(iv) yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(b) yn is-baragraff (3)—
(i) yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir”;
(ii) yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(iii) yn lle “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor” rhodder “y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
(c) yn is-baragraff (4)(b) ac (c), ar ôl “i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(d) yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(b) yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.
(4) Ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.
(5) Ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu)—
(a) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(b) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(6) Ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b) yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(c) yn is-baragraff (1)(e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(d) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;
(ii) ym mharagraff (b)—(aa) yn lle “a’i fod â hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;(bb) yn lle “yn mynd” rhodder “wedi mynd”;
(e) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”
(7) Ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(a) yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(b) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a) sydd—
(i) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii) yn wladolyn o’r UE; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(c) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(8) Ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(b) yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”;
(c) yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”.
(9) Yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), rhodder—“
11. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(10) Ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, yr”.
10 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
11 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.
12 
Yn rheoliad 15 (digwyddiadau)—
(a) ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (e) rhodder—“
(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
13 
Yn lle rheoliad 23(12)(d) (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw) rhodder—“
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
14 
Yn rheoliad 30(1) (grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—
(a) ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle paragraff (iii) rhodder—“
(iii) pan fo deddfwriaeth—(aa) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu(bb) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,”.
15 
Yn lle rheoliad 49(2)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd) rhodder—“
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
16 
Yn rheoliad 65(4) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) yn is-baragraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
17 
Yn rheoliad 82(4) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) yn is-baragraff (d), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
18 
Yn rheoliad 95(1) (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli), yn is-baragraff (o)—
(a) ym mharagraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle paragraff (iii) rhodder—“
(iii) pan fo deddfwriaeth—(aa) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu(bb) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,”.
19 
Yn lle rheoliad 111(2)(d) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd) rhodder—“
(d) y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
20 

(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” a “diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y maent yn digwydd, ac ar ôl “diriogaeth a ffurfir gan” mewnosoder “y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a) ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(ii) yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(ii) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—
(i) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;(bb) yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;
(iv) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”;
(e) ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn o’r UE;
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii) yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(f) ym mharagraff 10 (gwladolion o’r UE)—
(i) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(g) yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
11. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(h) ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sydd yn ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
21 
Yn Atodlen 4 (benthyciadau at ffioedd coleg), paragraff 6—
(a) yn is-baragraff (c), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle is-baragraff (d) rhodder—“
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
22 

(1) Mae Atodlen 5 (asesiad ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), paragraff (n)—
(a) yn is-baragraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle is-baragraff (iii) rhodder—“
(iii) pan fo deddfwriaeth—(aa) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu(bb) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),”.
(3) Ym mharagraff 2(1)(g) (myfyriwr cymwys annibynnol), o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a) paragraff 4(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys);
(b) paragraff 5 (cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant)—
(i) is-baragraff (1)(a);
(ii) is-baragraff (6), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(iii) is-baragraff (7).
23 

(1) Mae Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), paragraff (j)—
(a) yn is-baragraff (ii), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle is-baragraff (iii) rhodder—“
(iii) pan fo deddfwriaeth—(aa) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau; neu(bb) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),”.
(3) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a) paragraff 3(1) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys);
(b) paragraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys)—
(i) is-baragraff (1)(a);
(ii) is-baragraff (6), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(iii) is-baragraff (7).
24 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
25 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.
26 
Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—
(a) ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (e) rhodder—“
(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
27 

(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c) yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a) ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(ii) yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ym mharagraff 6(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(ii) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) ym mharagraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—
(i) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;(bb) yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;
(iv) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”;
(e) ym mharagraff 9 (gwladolion UE)—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn UE;
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii) yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(f) ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—
(i) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(g) yn lle paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
11. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(h) ym mharagraff 12(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
28 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
29 
Yn rheoliad 80(2)(b) (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (iii), ar ôl “gwladolyn o’r UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (iv) rhodder—“
(iv) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;”.
30 
Yn lle rheoliad 81(3)(b)(iii) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd) rhodder—“
(iii) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;”.
31 

(1) Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(2) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) sydd naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(b) ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(3) Ym mharagraff 4 (categori 4 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a) yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(c) yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(4) Ym mharagraff 5 (categori 5 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) yn is-baragraff (3)(c), yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl”;
(d) yn is-baragraff (4)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “a chanddo hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “sy’n mynd” rhodder “sydd wedi mynd”;
(e) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”
(5) Ym mharagraff 6 (categori 6 – gwladolion UE)—
(a) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn UE,
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),”;
(b) yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(e) yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(f) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(6) Yn lle paragraff 7 (categori 7 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
7. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d) mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(7) Ym mharagraff 8(1)(c) (categori 8 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(8) Ym mharagraff 9 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—
(a) ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b) yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(9) Ym mharagraff 11 (dehongli)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”.
32 

(1) Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(3) Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.”
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a) paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;
(b) paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;
(c) paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d) paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).
33 

(1) Mae Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(2) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (c), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;”.
34 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
35 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”.
36 
Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—
(a) ym mharagraff (d), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 10 o Atodlen 1 yn rhinwedd paragraff 10(5) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (e) rhodder—“
(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 3(a) o Atodlen 1;”.
37 

(1) Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1, paragraff 1 (dehongli)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) yn is-baragraffau (4) a (5), ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c) yn is-baragraff (6), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(3) Yn Rhan 2 (categorïau)—
(a) ym mharagraff 3 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;
(ii) yn is-baragraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ym mharagraff 7(1)(c) (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ym mharagraff 8 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) ailrifer is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn is-baragraff (1)(a), (b) ac (c);
(ii) yn is-baragraff (1)(b) fel y’i hailrifwyd felly, ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) ym mharagraff 9 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—
(i) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) yn lle “sydd â hawl” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl” ym mhob lle y mae’n digwydd;(bb) yn lle “os yw’n mynd” rhodder “os yw wedi mynd”;
(iv) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”;
(e) ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn UE;
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio; neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii);”;
(ii) yn is-baragraffau (1)(c) a (d) a (2), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (4), ar ôl “os yw’r person hwnnw” mewnosoder “wedi preswylio yn Gibraltar neu”;
(iv) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(f) ym mharagraff 11 (gwladolion UE)—
(i) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(ii) yn is-baragraff (1)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(iii) yn is-baragraff (2), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(g) yn lle paragraff 12 (plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
12. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d) mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(h) ym mharagraff 13(c) (plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
38 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
39 
Yn rheoliad 16(1)(b) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs)—
(a) ym mharagraff (iii), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 8(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 8(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teulu”;
(b) yn lle paragraff (iv) rhodder—“
(iv) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;”.
40 

(1) Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(2) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) sydd naill ai—
(i) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu
(ii) yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,”;
(b) ym mharagraff (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(3) Ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a) yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(c) yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(4) Ym mharagraff 7 (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “hawl i breswylio” mewnosoder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b) yn is-baragraff (1)(d) ac (e), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) yn is-baragraff (3)(c), yn lle “sydd wedi arfer hawl i breswylio’n barhaol” rhodder “yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol”;
(d) yn is-baragraff (4)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “a chanddo hawl” rhodder “ac yr oedd ganddo’r hawl”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “sy’n mynd” rhodder “sydd wedi mynd”;
(e) ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—“
(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.”
(5) Ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—
(a) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn UE,
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),”;
(b) yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;
(d) yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(e) yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(f) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(6) Yn lle paragraff 9 (categori 9 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
9. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d) mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”
(7) Ym mharagraff 10(1)(c) (categori 10 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(8) Ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—
(a) ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b) yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
(9) Ym mharagraff 13 (dehongli)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;“
 mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol” rhodder—“
 ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”.
41 

(1) Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(3) Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.”
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a) paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;
(b) paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;
(c) paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d) paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2020