
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2 
Mae Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 3(2), yn yr erthygl 3A(6)(b) newydd sydd i’w mewnosod yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 gan y rheoliad hwnnw, yn lle “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 2005” rhodder “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.
4 
Yn lle rheoliad 4 rhodder—“
4. 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016, yn lle “yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “, i’r graddau y bo’n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (gan gynnwys, i’r graddau y bo’n ofynnol, fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd) ac mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” yn adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018””.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2020