
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr “Rheoliadau Rhif 3” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ;
(c) ystyr “Rheoliadau Rhif 4” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 .
RHAN 2
2 
Yn Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.), ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—“
12A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—
(a) wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc, neu
(b) wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(3) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(4) Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(5) Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(6) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.
(7) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (6)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—“
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a) am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii) i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;
(b) os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.””
RHAN 3
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhif 3 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b) wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c) wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw rheoliadau 3 i 7 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b) os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c) er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.”
(3) Yn rheoliad 24(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.
(4) Yn rheoliad 26(1), ar ôl “3(1)” mewnosoder “9A(3)”.
(5) Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “5(1)” mewnosoder “, 9A(3)”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Rhif 4 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—“
PENNOD 3
18A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020,
(b) wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020, ac
(c) wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw rheoliadau 4, 6 a 9 yn gymwys i P nac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P.
(3) Ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru.
(4) Ond gall P, neu berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw—
(a) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol;
(b) os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c) er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol.”
(3) Yn rheoliad 28(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.
(4) Yn rheoliad 31(1), ar ôl “4(1)” mewnosoder “neu 18A(3)”.
(5) Yn rheoliad 29(1)(b), ar ôl “16” insert “, 18A(3)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Iechyd, un o Weinidogion Cymru
Am 3.33 a.m. ar 7 Tachwedd 2020