
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(1) (cyfnod para cynlluniau deng mlynedd)—
(a) yn lle “1 Medi 2021” rhodder “1 Medi 2022”;
(b) yn lle “31 Awst 2031” rhodder “31 Awst 2032”.
(3) Yn rheoliad 5(1) (cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “31 Ionawr 2022”.
(4) Yn rheoliad 7 (adroddiad adolygu blynyddol)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “2022” rhodder “2023”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “31 Gorffennaf 2022” rhodder “31 Gorffennaf 2023”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2020