
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020—
(a) adran 5;
(b) adran 15;
(c) adran 37;
(d) adran 39;
(e) adrannau 45 a 46;
(f) adran 67;
(g) adran 74;
(h) adran 82.
3 

(1) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion gwneud rheoliadau—
(a) adran 16;
(b) adran 21;
(c) adran 32;
(d) adran 36;
(e) adran 54;
(f) adran 56;
(g) adran 60;
(h) adran 65;
(i) adrannau 75 i 77;
(j) adran 83;
(k) adran 85;
(l) adrannau 91 a 92;
(m) adran 95;
(n) adran 96 a pharagraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) o’r Atodlen.
(2) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion dyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf—
(a) adran 4;
(b) adrannau 7 ac 8;
(c) adran 47.
4 

(1) Daw adrannau 61 a 62 o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021 at bob diben sy’n weddill—
(a) adran 56(1);
(b) adran 56(4) i (6);
(c) adran 60.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2020