
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2020.
2 

(1) Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 9(3), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
(3) Yn adran 17(2), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3) Yn rheoliad 7(10), yn lle “Reoliad y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(a), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3) Yn rheoliad 5(2), yn y diffiniad o “rheoli”, ar ôl “adfer” mewnosoder “(gan gynnwys sortio)”.
(4) Yn lle rheoliad 19(4) rhodder—“
(4) Mae paragraff (1) yn gymwys i gymysgu olew gwastraff dim ond pan fyddai cymysgu olew o’r fath yn rhwystro atgynhyrchu neu weithrediad ailgylchu arall sy’n cyflawni canlyniad cyffredinol sy’n gyfwerth neu’n well nag atgynhyrchu.
(5) Ym mharagraff (4)—
 ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer lle y caiff deunyddiau gwastraff eu hailbrosesu yn gynhyrchion, deunyddiau neu sylweddau, boed hynny at y dibenion gwreiddiol neu ddibenion arall, gan gynnwys ailbrosesu deunydd organig ond heb gynnwys adfer ynni nac ailbrosesu ynni yn ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau;
 ystyr “atgynhyrchu” (“regeneration”) yw unrhyw weithrediad ailgylchu lle y gellir cynhyrchu olewau sylfaen drwy buro olewau gwastraff, yn enwedig drwy gael gwared ar yr halogion, y cynhyrchion ocsideiddio a’r ychwanegion a gynhwysir mewn olewau o’r fath”.
(5) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “Mae’r rheoliad hwn” rhodder “Mae paragraff (2)”;
(ii) yn is-baragraff (b)(i), hepgorer “ac yn economaidd”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan na fo gwahanu yn ofynnol yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r deiliad wneud trefniadau i drin gwastraff peryglus a gymysgwyd mewn cyfleuster a awdurdodir gan drwydded gwastraff i drin y gwastraff hwnnw.”.
(6) Yn rheoliad 47(5B)—
(a) yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b) ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
(7) Yn rheoliad 48(6B)—
(a) yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b) ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 9, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”;
(b) ym mharagraff 10, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
27 Hydref 2020