
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2020.
RHAN 1
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “pla planhigion a reolir”, ar y diwedd mewnosoder “, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3)”.
(3) Yn rheoliad 3(1)—
(a) hepgorer y diffiniadau o—
(i) “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198”, a
(ii) “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/885”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;
 ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/1191”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 yn sefydlu mesurau i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.”
(4) Yn rheoliad 13(10)—
(a) hepgorer y diffiniad o “awr waith”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);”.
(5) Yn rheoliad 21—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—
(a) cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,
(b) cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu
(c) cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn.”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Ym mharagraff (1)—
 ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin yr Undeb, yn bla cwarantin parth gwarchodedig nac yn bla planhigion sy’n destun unrhyw fesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;
 ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—
(a) rhanddirymiad darpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a nodir mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu
(b) rhanddirymiad unrhyw benderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dal yn gymwys at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ac sy’n caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau awdurdodi gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd gan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu odano.”
(6) Yn Atodlen 3, yn y tabl yn Rhan 3, ar ôl y cofnod ar gyfer Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 mewnosoder—“
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion pan ganiateir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol wrth bwyntiau rheoli a phan ganiateir cynnal gwiriadau dogfennol bellter oddi wrth safleoedd rheoli ar y ffin, ac o dan ba amodau y caniateir gwneud hynny
Erthygl 2(1)(d), (e), (f), (g)(i) ac (h) (fel y’u darllenir gydag Erthygl 2(2) a (3)), Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 5(2), Erthygl 6(1) a (4) ac Erthygl 8(2)) Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth gydymffurfio ag amodau penodol pan fo gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar y llwyth i’w cynnal wrth bwynt rheoli ac eithrio safle rheoli ar y ffin.”
(7) Yn y tabl yn Atodlen 4—
(a) hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud ag—
(i) Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2017/198/EU, a
(ii) Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sydd wedi treulio rhan o’u bywyd yn yr Undeb)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos)
Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig ar gyfer eu plannu o fewn yr Undeb)
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb hadau penodedig)
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig i’w plannu sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb hadau penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)”.
RHAN 2
3 
Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, yn rheoliad 5(5), yn lle “at ddibenion unrhyw randdirymiad a ddisgrifir yn Erthygl 8(1) neu 48(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(b) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020”.
4 
Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “trwydded”, ym mharagraff (b), ar ôl “21(1)(a)” mewnosoder “neu (b)”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2020