
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”) yw’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”;“
 ystyr “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”) yw’r gofyniad i ynysu yn unol â Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”.
(3) Yn lle rheoliad 3(2) (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru) rhodder—“
(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a) yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen), a
(iii) dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk;
(b) yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii) dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv) dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;
(c) yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith neu gofrestru ar gyfer taith dros y ffôn neu wyneb yn wyneb—
(i) pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen;
(ii) pan ddarperir yr wybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a’r gofyniad i ynysu;
(d) yn unrhyw un o’r achosion uchod, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—
(i) yr archebir taith ar ei ran, neu
(ii) y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.”
(4) Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
3A. 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan archebir taith, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, ar gyfer teithiwr (“P”) ar y gwasanaeth hwnnw.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i weithredwr y gwasanaeth sicrhau, rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael, bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4) (“yr wybodaeth ofynnol”) wedi ei darparu i P.
(3) Rhaid i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, drwy’r e-bost neu ar lafar.
(4) Yr wybodaeth ofynnol a grybwyllir ym mharagraff (2) yw—
(a) pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—
(i) yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(ii) yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(iii) yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv) os yw’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn un y dyrennir arno rif sedd i P, yn cynghori P i ddarparu rhif y sedd fel rhan o’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth;
(b) pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii) dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv) dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;
(c) pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen.
(5) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef, o ran yr amser a nodir ym mharagraff (1), os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i A yn y dull sy’n ofynnol rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.”
(5) Yn rheoliad 4(1) (darparu gwybodaeth yn ystod taith), yn lle “yr Atodlen” rhodder “Rhan 2 o’r Atodlen”.
(6) Yn rheoliad 5 (eithriad o ofynion rheoliadau 3 a 4)—
(a) yn y pennawd, ar ôl “3” mewnosoder “, 3A”;
(b) yn y rheoliad, ar ôl “3” mewnosoder “, 3A”.
(7) Yn rheoliad 6(1) (troseddau), ar ôl “(3)” mewnosoder “, rheoliad 3A(2)”.
(8) Yn lle’r Atodlen rhodder—“
YR ATODLEN
Rheoliadau 3, 3A a 4
RHAN 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—“ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UKThe United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.
1) To protect your health and others’, everyone must complete an online Passenger Locator Form before arrival in the United Kingdom.
2) You may be required to self-isolate for 14 days on arrival. Check the exempt countries list immediately before you travel as this list can change at short notice.
3) It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.Failure to comply with the above measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit 
www.gov.uk/uk-border-control
 for detailed public health advice and requirements for entering the UK.”

RHAN 2Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a) y fersiwn Gymraeg—“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr ar-lein, ni waeth o ble yr ydych yn cyrraedd. Rhaid i chi hefyd hunanynysu am y 14 o ddiwrnodau cyntaf ar ôl i chi gyrraedd, oni bai eich bod mewn categori esempt. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi ac eraill.Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.Camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i’ch diogelu chi a’ch teulu yw:Golchi eich dwyloOsgoi cyffwrdd â’ch wyneb â’ch dwyloDal peswch a thisian mewn hances bapur a’i gwaredu ar unwaith.”;
(b) y fersiwn Saesneg—“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.Before entering the UK, you must complete a Passenger Locator Form online, regardless of where you are arriving from. You must also self-isolate for the first 14 days after you arrive, unless you are in an exempt category. This is to protect yourself and others.Visit gov.uk for more information.The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.Simple measures you can take to help protect yourself and family are:Wash your handsAvoid touching your face with your handsCatch coughs and sneezes in a tissue and dispose of it immediately.”;
(c) y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.
”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.21 a.m. ar 14 Hydref 2020