
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 28 Medi 2020.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(j) Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
(k) Bwrdeistref Sirol Torfaen;
(l) Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 12.31 p.m. ar 28 Medi 2020